Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:42 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Elin Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at;
· Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a
· Chadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i geisio eu barn am y ddeiseb.
2.2P-04-460 Moddion nid Maes Awyr
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Iechyd; a
· Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i geisio eu barn am y ddeiseb.
2.3P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· geisio briff cyfreithiol ar y ddeiseb; ac i
· ysgrifennu at Gyngor Rhondda Cynon Taf i holi pam na chafodd y pwll padlo ei gynnwys yn y cynlluniau ailddatblygu.
2.4P-04-462 Gwahardd codi baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau swyddogol yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn ceisio ei farn am y ddeiseb gan holi beth yw polisi presennol Llywodraeth Cymru ar faneri.
2.5P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i geisio briff cyfreithiol.
2.6P-04-464 Gwneud Wenglish yn iaith gydnabyddedig swyddogol yng Nghymru, fel Sgoteg yn yr Alban!
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a phenderfynodd i beidio â bwrw ymlaen â hi, a chau’r ddeiseb.
2.7P-04-465 Achub llaeth Cymru, a seilwaith a swyddi’r diwydiant
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn ceisio ei farn am y ddeiseb.
2.8P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ceisio ei farn am y ddeiseb, gan roi copi i’r Gweinidog Iechyd a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
2.9P-04-467 Arholiadau ym mis Ionawr
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn ceisio ei farn am y ddeiseb.
2.10 P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i geisio ei barn am y ddeiseb.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r ymgynhoriad; a’r
· Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i fynegi pryderon am ddod â’r Gronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol i ben.
3.2P-04-383 Yn Erbyn Dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors
Yn wyneb diffyg ymateb gan y deisebwr, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.3P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb gan nad yw’r safle’n bodloni’r meini prawf i gael ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.
3.4P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i holi am eglurhad o’r amserlen i ailedrych ar y mater, ac i holi a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau i’r Pwyllgor.
3.5P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn amlygu pryderon y deisebwr am y Gorchymyn i gau’r llwybrau, ac i holi pryd y mae’n disgwyl i’r Arolygiaeth Gynllunio wneud penderfyniad ar y gorchmynion.
3.6P-04-422 Ffracio
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Tai ac Adfywio yn amlygu pryderon Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y diffyg canllawiau o ran ffracio; a’r
· Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gofyn i gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddo ystyried y mater.
3.7P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn holi a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau ar y mater hwn.
3.8P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i holi sut y mae’n bwriadu ymdrin â’r materion a godwyd gan y ddeiseb.
3.9P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Companion Animal Welfare Council i geisio ei farn am y ddeiseb.
3.10 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i holi a fyddai modd i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am y peilot, gan bwysleisio bod y ddeiseb gan rieni o Fro Morgannwg.
3.11 P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad y dadansoddiad o’r ymgynghoriad.
3.12 P-04-443 Hanes Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y deisebwr ar ohebiaeth y Gweinidog.
3.13 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ganfyddiadau’r adolygiad.
3.14 P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y llywodraeth
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb, ac yn wyneb ymateb y deisebwr cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.15 P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty
3.16 P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip
3.17 P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod
3.18 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd
Cytunodd y Pwyllgor i ystyried P-04-367, P-04-394, P-04-430 a P-04-431 gyda’i gilydd.
Nododd y Cadeirydd y bu ef a Joyce Watson mewn cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan Gyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli ddydd Iau 14 Mawrth gydag Aelod Cynulliad Llanelli a’r dau Aelod Cynulliad arall sy’n cynrycholi rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru i rannu eu barn am gynigion ailstrwythuro Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a’r modd y cyfeiriodd y Cyngor Iechyd Cymuned y rhain at y Gweinidog Iechyd.
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar bob un o’r deisebau a chytunodd i ysgrifennu at;
· Mark Drakeford yn ei rôl newydd fel y Gweinidog Iechyd, gan ei hysbysu o’r deisebau, gan amlygu’r pryderon am yr amserlen a roddwyd i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.
· bob prif ddeisebwr yn unigol, i roi gwybod iddyn nhw bod gofyn i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda gyflwyno rhagor o wybodaeth i Lywodraeth Cymru erbyn 5 Ebrill.
3.19 P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn amlygu pryderon Hafal a Mind Cymru am Ran Dau’r Mesur Iechyd Meddwl a rôl Cymru yn natblygiad safonau NICE.
3.20 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brycheiniog a Maesyfed Cyngor Iechyd Cymuned i rannu gohebiaeth y deisebwr a cheisio ei farn am y ddeiseb.
Yn ogystal, nododd y Pwyllgor bod Andrew Cottom, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Powys, yn barod i fod yn bresennol mewn sesiwn graffu ynghylch y ddeiseb. O dan yr amgylchiadau hynny byddai’r prif ddeisebwr hefyd yn cael gwahoddiad i gyflwyno ei achos.
3.21 P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i holi a fyddai modd iddo ystyried y ddeiseb fel rhan o’r ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau.
3.22 P-03-263 Rhestru Parc y Strade
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· geisio barn y deisebwyr ar ohebiaeth y Gweinidog; ac
· ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn a fyddai modd cynnwys y ddeiseb fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Bil Treftadaeth arfaethedig.
3.23 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
3.24 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ofyn a fydd y safle wedi ei gynnwys, unwaith bydd y rhestr leol wedi ei chytuno.
3.25 P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac yn wyneb y gwaith sy’n mynd rhagddo gan Gyngor Sir Ddinbych i ddiogelu’r adeilad, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.26 P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-dy Dolgellau
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i geisio ei farn am ohebiaeth y deisebwr.
3.27 P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb, ac yn wyneb datblygiadau, a bod Aelod cynulliad yr etholwr yn ymdrin â hyn, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.28 P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac yn wyneb ymateb y deisebwr, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.29 P-04-404 Awyrennau Di-Beilot Aberporth
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb, a gan fod y Gweinidog wedi nodi nad yw’n bwriadu tynnu cefnogaeth yn ôl, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.30 P-04-414 Swyddi Cymreig
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chau.
3.31 P-03-187 Diddymu'r Tollau ar ddwy Bont Hafren
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb, ac oherwydd na fydd y tollau’n cael eu diddymu yn y tymor byr, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.32 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;
· Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod canlyniad y cais; a
· Chomisiynydd newydd yr Heddlu ar gyfer Heddlu Dyfed Powys, i’w hysbysu am y ddeiseb.
Rhoddodd Joyce Watson y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei hymweliad diweddar â’r safle, i weld y materion ynghylch diogelwch ffordd ar yr A40 yn Llanddewi Felffre drosti ei hun. Diolchodd y deisebwyr am eu lletygarwch a chytunodd i rannu’r ffotograffau o’r ymweliad gyda’r Pwyllgor.
3.33 P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd
3.34 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth;
· yn amlinellu’r dull o weithio a awgrymwyd gan y Gweinidog blaenorol a oedd yn gyfrifol am hyn gan ofyn iddi ac ydyw’n cytuno â’r dull hwn o weithio; ac
· yn ceisio eglurhad am bryd y mae disgwyl y dyddiad cychwyn , gan egluro bod dyddiadau gwahanol wedi cael eu cyflwyno.
Cytunodd y Pwyllgor i gau P-04-261 yn wyneb penderfyniad Llywodraeth Cymru i fynd ymlaen â’r ffordd osgoi.
3.35 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
3.36 P-04-453 Gwelliannau ym Maes Awyr Caerdydd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb, ac yn wyneb y ffaith bod y deisebwr wedi nodi bod cyhoeddiad y Prif Weinidog wedi cyflawni ei hamcanion, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.37 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y deisebwr am ohebiaeth y Gweinidog.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunwyd ar y cynnig.
5. P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru: Adroddiad draft
Cytunodd y Pwyllgor â’r adroddiad drafft.
Diolchodd y Cadeirydd yr Aelodau am ddod ac am gyfrannu – a dymunodd Basg hapus i bawb.